
Sut gall athro hyrwyddo y Fframwaith Cyfrifiadura Digidol newydd, a pha adnoddau sydd ar gael?
Yn ogystal ag adnoddau HWB mae y canlynol yn awr ar gael:
Google G-Suite – Yn gynharach y mis hwn cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y defnydd o Google G-Suite fel rhan o HWB. Byddwn yn dangos sut gall yr adnoddau am ddim yma fod o ddefnydd ymarferol o fewn y dosbarth, gan gynorthwyo ymdrechion i gynyddu ymgysylltiad myfyrwyr, yn ogystal a lleihau chostau TGCh.
Fframwaith Cyfrifiadura Cynradd – dysgwch mwy am sut gall yr adnodau gwersi ymarferol yma. A’r hyfforddiant a chefnogaeth pellach fod o gymorth mewn ystafelloedd gwersi eich ysgol chi.
Ymunwch â ni yng Ngwesty'r Cei, Deganwy ar ddydd Mercher 15 Tachwedd, 12.30yh-5yh ar gyfer 'Symposiwm TG Ysgol Gynradd Gogledd Cymru'. Mae’r digwyddiad AM DDIM yma ar gyfer athrawon ysgol gynradd y Gogledd a chydlynwyr TGCh.
Byddwch yn medru clywed barn a theimladau athrawn sydd wedi arbrofi eisoes gyda yr adnoddau yma.
Pryd & Lle
Dydd Mercher 15fed Tachwedd 12.30yh-5yh
Gwesty a Sba'r Cei
Cei Deganwy
Conwy
LL31 9DJ
Y Symposiwm
Byddwch yn clywed eich hun, gan addysgwyr a thechnolegwyr addysgol, ynghylch sut y gallwch chi ddefnyddio offer addysgu pwerus sydd ar gael i wella perfformiad y dosbarth a lleihau costau TGCh.
Byddwch yn clywed gan addysgwyr a thechnolegwyr addysgol, ynghylch sut y gallwch ddefnyddio adnoddau dysgu ymarferol I gynorthwo yn y dosbarth, yn ogystal a lleihau costau Technoleg Gwybodaeth.
- Athrawon – Dysgwch gan addysgwyr sut i gyflwyno gwersi cyfrifiadurol cynhwysfawr ac ymgysylltu, hyd yn oed os nad gennych brofiad helaeth o’r maes yma. Byddwch hefyd yn archwilio amgylchedd dysgu newydd sy'n medru helpu gwella cyrhaeddiad myfyrwyr.
- Aelodau'r Tim Rheoli - byddwch yn archwilio sut y gallwch ddefnyddio TG i gyfrannu at welliannau perfformiad yn yr ystafell ddosbarth, tra'n lleihau costau TG ar yr un pryd.
- Cydlynwyr TGCh – bydd cefnogaeth ar gael I help ysgolion i gydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu wrth ddileu tasgau cynnal a chadw dwys.
Mae lleoedd yn gyfyngedig a disgwylir iddynt gael eu harchebu'n gyflym. Cofiwch gofrestru mor fuan â phosib.
Agenda Digwyddiad
Tanya Lloyd, Athro Blwyddyn 4, Ysgol Gynradd Hiraddug
Fframwaith Cyfrifiadura Cynradd
Profiad un ysgol o'r adnoddau ymarefrol yma.
Seibiant coffi - arddangosiadau ymarferol o VR, AR & Dreamoc
Joe Basketts, Ymgynghorydd Cyfrifuadreg Cynradd Cymru
Diogelwch Ar-lein
Gyda'r ffrwydrad mewn perchnogaeth ffonau symudol a rhwydweithio cymdeithasol mae'n fwyfwy anodd sicrhau bod disgyblion a staff yn cael eu hamddiffyn.
Joe Basketts, Ymgynghorydd Cyfrifuadreg Cynradd Cymru
Mynd G-Suite
Trosolwg o'r adnoddau sydd ar gael a syniadau ymarferol ar gyfer eu defnyddio yn y dosbarth.